Grilled Cheese

ExploreLog inSign up

Cymdeithas yr Iaith

@cymdeithas.cymru

41 Following482 Followers

Cymdeithas o bobl sy'n gweithredu'n ddi-drais dros y Gymraeg a'n cymunedau fel rhan o'r chwyldro rhyngwladol dros ryddid a chyfiawnder.

linktr.ee/Cymdeithas

PostsRepliesMedia
@cymdeithas.cymruOct 7, 2026, 6:33 PM

Wythnos i heddiw, byddwn yn cynnal cyfarfod agored ac anffurfiol i drafod: 📚 Hanes y Gymdeithas 📢 Sut mae’r mudiad yn ymgyrchu heddiw 🤝 Y gwahanol ffyrdd y gallwch chi ddod yn rhan o’n gwaith Croeso cynnes i unrhyw aelod – hen neu newydd! 📅 Nos Fercher, 14 Hydref 🕕 6 o’r gloch 💻 Ar-lein

@cymdeithas.cymruOct 7, 2026, 6:33 PM

🌟 Sesiwn i Aelodau Newydd 🌟 Rydyn ni’n chwilio o hyd am aelodau brwdfrydig i gyfrannu - boed hynny gyda’n grwpiau ymgyrchu, trwy ddylunio, cyfieithu, creu nwyddau neu unrhyw ffordd arall✊

@rhaglencymru.bsky.socialOct 3, 2026, 9:11 PMReposted by @cymdeithas.cymru

@cymdeithas.cymru + @dcmsgovuk.bsky.social #Cymraeg

podcasts.apple.com/au/podcast/r...

@cymdeithas.cymruSep 25, 2026, 12:02 PM

Dyma’r cyfle olaf i droi’r llanw a gweithredu dros dyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol fyw⌛️

📆 Dydd Sadwrn, 3 Hydref, 8.45yb
📍 Ystafell Rhuddlan, Venue Cymru, Llandudno

Dewch yn llu!

#llywodraethcymru #cynhadledd #troirllanw #cymraeg

@cymdeithas.cymruSep 25, 2026, 12:02 PM

🌊 Troi'r Llanw dros y Gymraeg: Cartrefi i Bobl Leol Byddwn yn cynnal cyfarfod ymylol yng Nghynhadledd Plaid Cymru wythnos nesaf🤝 Bydd Walis George ar ran y Gymdeithas yn cyflwyno galwadau canolog Siarter Troi’r Llanw i warchod ein cymunedau Cymraeg📣

@cymdeithas.cymruSep 21, 2026, 6:30 PM

Nabod rhywun a fyddai’n berffaith ar gyfer un o’r swyddi? Enwebwch nhw!👥
Awyddus i ymymryd ag un o’r swyddi hyn? Enwebwch eich hun!🙋

⏰Dyddiad cau: 12yh, Dydd Iau, 8 Hydref
📝Ffurflen enwebu: cymdeithas.cymru/enwebu
📞 Cysylltwch am fwy o wybodaeth: [email protected] / 01970624501

@cymdeithas.cymruSep 21, 2026, 6:30 PM

Neges i aelodau📢 Rydym yn ail-agor enwebiadau ar gyfer swyddi ar Senedd y Gymdeithas! Dyma gyfle arbennig i fod yn rhan o dim brwdfrydig a gweithgar yn ystod y cyfnod cyffrous hwn gyda’r Llywodraeth newydd mewn grym💪

@cymdeithas.cymruSep 17, 2026, 6:30 PM

Mae ein baner 'Cymru Rydd i Bawb' ar gael ar ein gwefan - gyda phostio am ddim rhwng nawr a Rali Annibyniaeth Aberystwyth ar 26 Medi📣

Felly, prynwch nawr i sicrhau eu derbyn mewn pryd!📨

#baner #rali #annibyniaeth

@cymdeithas.cymruSep 6, 2026, 8:30 AM

Mae croeso i holl aelodau’r Gymdeithas fynychu’r cyfarfod a phleidleisio. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

📆 Dydd Sadwrn, 17 Hydref 2026
⏰️ 10yb
📍 Canolfan Arad Goch, Aberystwyth
📨 [email protected]

#cyfarfodcyffredinol #cymdeithasyriaith

@cymdeithas.cymruSep 6, 2026, 8:30 AM

📅 Cadwch y Dyddiad! Yn y cyfarfod, bydd: 📋 Adroddiadau ar waith y Gymdeithas dros y flwyddyn yn cael eu cyflwyno 🗳️ Swyddogion yn cael eu hethol i wasanaethu ar Senedd y Gymdeithas 💬 Amryw o gynigion yn cael eu cyflwyno a'u trafod

@cymdeithas.cymruSep 3, 2026, 6:30 PM

🌍 Rydym yn gweld ein brwydr dros y Gymraeg yn rhan o ymdrech ehangach dros sicrhau hawliau i ieithoedd a chymunedau lleiafrifol ledled y byd. Dyna pam rydym yn cyd-sefyll â phobl Cernyw yn eu hymgyrch dros gydnabyddiaeth i’w hiaith a’u hunaniaeth🤝

🔗 petition.parliament.uk/petitions/76...

@cymdeithas.cymruSep 3, 2026, 6:30 PM

📣 Arwyddwch y ddeiseb! Ar hyn o bryd, mae pobl Cernyw yn cael eu gorfodi i ddewis y categori ‘Arall’ wrth ddatgan eu hunaniaeth genedlaethol yn y Cyfrifiad. ✍️ Arwyddwch y ddeiseb i gefnogi’r alwad i gyflwyno’r blwch ticio ‘Cernywaidd’ yng Nghyfrifiad 2031.

@cymdeithas.cymruAug 28, 2026, 3:30 PM

🎶👕 Apêl am eitemau 🖼️⚽️ Rydym yn chwilio am eitemau arbennig ar gyfer ein ocsiwn ar-lein yn yr Hydref💰️ Os oes gennych chi eitem yr hoffech ei chyfrannu, anfonwch neges at [email protected] 📨 📣 Helpwch ni i ledaenu’r neges drwy rannu’r post hwn gyda’ch ffrindiau, eich teulu a’ch cysylltiadau

Terms of UsePrivacy PolicyCommunity StandardsHelpGet the app

Grilled Cheese is a product of Village Compute

Version devBuilt at: 2026-10-12 00:11:13 EDT