Grilled Cheese

ExploreLog inSign up
Terms of UsePrivacy PolicyCommunity StandardsHelpGet the app

Grilled Cheese is a product of Village Compute

Version devBuilt at: 2026-10-11 02:37:10 EDT

Explore

PostsPeople
LatestRanked
@golwg.360.cymruOct 9, 2026, 3:20 PM

🗣 Golwg Rhys ar Wleidyddiaeth: Be nesaf i Blaid Werdd Lloegr a Chymru?

Blwyddyn yn ôl, roedd y Blaid Werdd ar ei thwf. Heddiw, mae brwydr wedi cychwyn i ddylanwadu ar gyfeiriad y Gwyrddion yn Lloegr ac yng Nghymru. #safbwynt #gwleidyddiaeth

✍️ Rhys Owen

@golwg.360.cymruOct 9, 2026, 8:10 AM

Tai cymdeithasol: Gwrthod cynnig “annoeth, atgas ac ymfflamychol” Reform UK

Nododd Siân Gwenllian, y Gweinidog Tai, nad yw tai cymdeithasol yn cael eu darparu i geiswyr lloches #gwleidyddiaeth

✍️ Ella Groves – Gohebydd Senedd ICNN

@golwg.360.cymruOct 9, 2026, 7:10 AM

Siop y Senedd: Galw am gynyddu potensial masnachol y sefydliad

Mae Aelodau’r Senedd eisiau gweld mwy yn digwydd i gynyddu incwm sy’n cael ei godi drwy elfennau masnachol prin y Senedd #gwleidyddiaeth

✍️ Rhys Owen

@golwg.360.cymruOct 8, 2026, 8:30 PM

‘Mae’r amser wedi dod i gael gwared ar Swyddfa Cymru’ – Mark Drakeford

Mae cyn Brif Weinidog Cymru yn dadlau bod trefniadau San Steffan wedi dyddio, wrth iddo hefyd alw am symud ymlaen â datganoli plismona i Gymru #gwleidyddiaeth

✍️ Llinos Dafydd

@golwg.360.cymruOct 8, 2026, 1:00 PM

Plaid Cymru’n galw am ymestyn y Rhyddhad Tollau Tanwydd Gwledig i Gymru

Dim ond mewn ardaloedd penodol yn yr Alban a Lloegr mae’r rhyddhad wedi’i gymhwyso ar hyn o bryd #gwleidyddiaeth

✍️ Efan Owen

@golwg.360.cymruOct 8, 2026, 12:35 PM

‘Dim mwy o ddatganoli ac anghofio’: Ceidwadwyr yn bygwth cyfyngu grymoedd yn yr Alban

Mae’r Ceidwadwyr wedi cadarnhau eu bod nhw am adolygu Deddf yr Alban ac ystyried cyfyngu ar rymoedd Holyrood #gwleidyddiaeth

✍️ Rhys Owen

@golwg.360.cymruOct 8, 2026, 10:00 AM

Mwy o ail gartrefi yn Rhosneigr na Threarddur am y tro cyntaf

Mae cynllunwyr wedi gwrthod datblygiad arall ym Môn yn sgil pryderon #gwleidyddiaeth

✍️ Dale Spridgeon, Gohebydd Democratiaeth Leol

@golwg.360.cymruOct 8, 2026, 9:20 AM

Argymell rhewi’r dreth gyngor ar gyfer ail gartrefi yn Sir Benfro

Premiwm o 125% sydd ar waith yno ar hyn o bryd #gwleidyddiaeth

✍️ Bruce Sinclair, Gohebydd Democratiaeth Leol

@golwg.360.cymruOct 8, 2026, 6:10 AM

Rhestrau aros y Gwasanaeth Iechyd Gwladol i godi eto cyn dechrau gostwng, medd y Gweinidog Iechyd

Mae Reform UK yn cyhuddo Llywodraeth Cymru o “symud y pyst gôl” ar ei haddewid. #gwleidyddiaeth

✍️ Ella Groves – Gohebydd Senedd ICNN

@golwg.360.cymruOct 7, 2026, 3:40 PM

‘Dydyn nhw ddim yn becso am Gymru’: cyn Ddirprwy Arweinydd y Gwyrddion yn galw am dorri cysylltiad â’r blaid yn Lloegr

Mae Phil Davies yn dweud wrth golwg360 fod diffyg cefnogaeth i’r blaid yng Nghymru wedi’i argyhoeddi bod angen iddi ddod yn annibynnol ar Blaid Werdd #gwleidyddiaeth

✍️ Rhys Owen

@golwg.360.cymruOct 7, 2026, 1:20 PM

Senedd yn galw am adolygu fformiwla Barnett ar ôl pleidlais drawsbleidiol

Aelodau Plaid Cymru, Llafur a’r Ceidwadwyr yn cytuno bod angen edrych eto ar y ffordd mae Cymru’n cael ei hariannu #gwleidyddiaeth

✍️ Ella Groves – Gohebydd Senedd ICNN

@golwg.360.cymruOct 7, 2026, 10:20 AM

Collfarnu ac ymddiswyddiadau ar ben y Blaid Werdd yng Nghymru wedi labelu Seïonistiaeth yn hiliaeth

Mae Phil Davies, eu Dirprwy Arweinydd yng Nghymru, wedi ymddiswyddo yn sgil cymeradwyo’r cynnig dadleuol yng nghynhadledd y blaid #gwleidyddiaeth

✍️ Efan Owen

@golwg.360.cymruOct 7, 2026, 9:20 AM

Rhun ap Iorwerth eisiau mwy o fyfyrwyr yn aros yng Nghymru – ond mae 10% o Aelodau Plaid wedi astudio yn Oxbridge

Mae’r Prif Weinidog yn dweud bod “argyfwng” mewn addysg uwch, ond bod y cwestiwn am Seren yn rhan o broblem ehangach #gwleidyddiaeth

✍️ Rhys Owen

@golwg.360.cymruOct 6, 2026, 12:20 PM

“Mae’n rhaid cael gwared ar Gyfoeth Naturiol Cymru,” meddai gweinidog cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig

Mae’n dadlau y byddai hyn yn cael gwared â biwrocratiaeth ddiangen ac yn sicrhau atebolrwydd yn fwy uniongyrchol #gwleidyddiaeth

✍️ Rhiannon Heledd Williams

@golwg.360.cymruOct 6, 2026, 11:40 AM

Y Gweinidog Cyllid yn arwain dadl dros gyllid tecach a chyflwyno buddsoddiad mewn rheilffyrdd

Mae’r cynnig, a gaiff ei drafod heddiw, yn gofyn i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig gydweithio ar dri cham ymarferol #gwleidyddiaeth

✍️ Rhiannon Heledd Williams

@golwg.360.cymruOct 6, 2026, 10:50 AM

Darren a Rhun i daro bargen?

“Os fydd cytundeb rhwng Plaid a’r Ceidwadwyr, fydd y neges sy’n cael ei chyfleu yn ofnadwy,” #CylchgrawnGolwg #gwleidyddiaeth

✍️ Rhys Owen

@golwg.360.cymruOct 5, 2026, 7:10 AM

Plaid Cymru yn gosod targedau newydd uchelgeisiol ar gyfer economi Cymru

“Dylem fod eisiau i fwy o gwmnïau o Gymru lwyddo, tyfu a chystadlu ar lwyfan y byd,” meddai’r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni #gwleidyddiaeth

✍️ Rhiannon Heledd Williams

@golwg.360.cymruOct 2, 2026, 4:35 PM

Lindsay Whittle: ‘Dim ond y fi oedd yn gallu ennill dros y Blaid yng Nghaerffili’

Flwyddyn ers ei fuddugoliaeth yng Nghaerffili, mae Lindsay Whittle wedi dweud na fyddai unrhyw ymgeisydd arall o Blaid Cymru wedi medru ennill yno #gwleidyddiaeth

✍️ Rhys Owen

@golwg.360.cymruOct 2, 2026, 12:55 PM

Ymwelydd iechyd mewn protest yn dweud na fydd byth yn pleidleisio i Blaid Cymru eto

Mae undeb Unite yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i sicrhau bod ymwelwyr iechyd yng Nghwm Taf yn derbyn cynnydd yn eu cyflogau #gwleidyddiaeth

✍️ Rhys Owen

@golwg.360.cymruOct 2, 2026, 6:10 AM

Galw am ‘Fargen newydd i Gymru’ ar drothwy cynhadledd Plaid Cymru

Hon fydd cynhadledd gyntaf Plaid Cymru ers iddyn nhw ddod i rym yn y Senedd #gwleidyddiaeth

✍️ Alun Rhys Chivers

Load more