Grilled Cheese

ExploreLog inSign up
Terms of UsePrivacy PolicyCommunity StandardsHelpGet the app

Grilled Cheese is a product of Village Compute

Version devBuilt at: 2026-10-13 06:05:14 EDT

Explore

PostsPeople
LatestRanked
@golwg.360.cymruSep 18, 2026, 6:10 AM

Cynghorwyr Gwynedd yn galw am ystyried “ffactorau lleol” cyn cymeradwyo tai cymdeithasol newydd

Mae cynghorwyr yn rhai o bentrefi’r sir yn dadlau nad yw’r fframwaith asesu’n cydnabod amodau lleol yn ddigonol #gwleidyddiaeth

✍️ Efan Owen

@golwg.360.cymruSep 17, 2026, 2:50 PM

Helen Jenner yn debygol o fod yn arweinydd nesaf Reform UK yng Nghymru

Mae golwg360 ar ddeall fod gan Aelodau o’r Senedd Reform tan 9 o’r gloch nos Iau (Medi 17) i gyflwyno enwebiadau #gwleidyddiaeth

✍️ Rhys Owen

@golwg.360.cymruSep 17, 2026, 6:10 AM

Llywodraeth Cymru’n galw’n ffurfiol am adolygu’r ffordd mae Cymru’n cael ei hariannu

Bydd Elin Jones yn pwyso ar y Trysorlys am newidiadau i gyllid Cymru mewn cyfarfod yng Nghaerdydd #gwleidyddiaeth

✍️ Llinos Dafydd

@golwg.360.cymruSep 16, 2026, 5:45 PM

Aelod Reform: Roedd yr Ymerodraeth Brydeinig yn ‘rym er daioni’

Fe wrthododd Heledd Fychan sylwadau Joe Martin yn llwyr, gan ddweud y byddai rhai o’i etholwyr yn cael eu “dychryn” ganddyn nhw #gwleidyddiaeth

✍️ Ella Groves – Gohebydd Senedd ICNN

@golwg.360.cymruSep 16, 2026, 3:00 PM

Plaid Cymru: Sarah Cooper-Lesadd i dorri cysylltiad â chyhoeddiad asgell dde

Dywed y blaid y bydd yr Aelod o’r Senedd newydd yn dod â’i chysylltiad â’r Freedom Association i ben “yn unol ag egwyddorion Plaid Cymru” #gwleidyddiaeth

✍️ Rhys Owen

@golwg.360.cymruSep 16, 2026, 1:45 PM

‘Problemau Reform yng Nghymru yn gerddoriaeth i glustiau Restore’

Mae ffynhonnell o Reform yng Nghymru wedi siarad gyda golwg360 am drafferthion mewnol y blaid. #gwleidyddiaeth

✍️ Rhys Owen

@golwg.360.cymruSep 16, 2026, 12:15 PM

Rhun ap Iorwerth am gyfarch rali YesCymru yn Aberystwyth

Bydd y Prif Weinidog yn ymuno â’r orymdaith ddyddiau’n unig wedi iddo arwyddo memorandwm cyd-ddealltwriaeth gyda’r SNP a Sinn Féin #gwleidyddiaeth

✍️ Efan Owen

@golwg.360.cymruSep 16, 2026, 9:40 AM

Cynnydd i Lafur a’r Ceidwadwyr wrth i Blaid Cymru a Reform golli tir

Plaid Cymru sy’n parhau ar y blaen ym mhôl piniwn cyntaf Barn Cymru ers mis Mai. #gwleidyddiaeth

✍️ Rhys Owen

@golwg.360.cymruSep 15, 2026, 7:30 PM

‘Heb eglurder, cydlyniad na chyfeiriad’: Gweinidog Addysg yn beirniadu’r system a etifeddwyd

Dywed Anna Brychan fod llythrennedd a rhifedd wedi’u “colli yng nghanol sŵn diwygio sylweddol” wrth amddiffyn cynllun newydd i godi safonau. #gwleidyddiaeth

✍️ Llinos Dafydd

@golwg.360.cymruSep 15, 2026, 4:05 PM

Cyn-AS Reform yn croesi’r llawr i Blaid Cymru

Mae Sarah Cooper-Lesadd wedi gadael Reform UK ac ymuno â Phlaid Cymru, gan ddod yn 44ain Aelod o’r Senedd i’r blaid. #gwleidyddiaeth

✍️ Llinos Dafydd

@golwg.360.cymruSep 15, 2026, 3:50 PM

Dan Thomas yn camu i lawr fel arweinydd Reform yng Nghymru

Mae Dan Thomas wedi camu i lawr fel arweinydd Reform UK yng Nghymru ar ôl dweud iddo gael ei adrodd i’r heddlu dros y penwythnos. #gwleidyddiaeth

✍️ Llinos Dafydd

@golwg.360.cymruSep 15, 2026, 3:35 PM

Reform yn mynd ar ôl Rhun ap Iorwerth dros y Gymraeg ac annibyniaeth

Mae Helen Jenner wedi herio Rhun ap Iorwerth dros annibyniaeth a rhybudd argyfwng y tanau gwyllt, gan sbarduno ffrae dros y Gymraeg ar lawr y Senedd. #gwleidyddiaeth

✍️ Llinos Dafydd

@golwg.360.cymruSep 15, 2026, 1:05 PM

O’r diwedd, mae’r Senedd yn ôl

Bu i’r Arweinydd, Dan Thomas, fethu Sesiwn Cwestiynau i’r Prif Weinidog cyntaf y tymor newydd ddydd Mawrth #CylchgrawnGolwg #gwleidyddiaeth

✍️ Rhys Owen

@golwg.360.cymruSep 15, 2026, 8:45 AM

🗣 Gall Rhun sefyll gyda’r Alban ac Iwerddon. Ond ydy Cymru’n sefyll gydag e?

Mae’n haws datgan bod amser San Steffan yn dod i ben na pherswadio Cymru fod rhywbeth gwell i ddod yn ei le. #safbwynt #gwleidyddiaeth

✍️ Llinos Dafydd

@golwg.360.cymruSep 15, 2026, 7:10 AM

Reform a Heledd Fychan yn cloi cyrn dros ddarlledu

Mae Heledd Fychan wedi amddiffyn cynlluniau darlledu Cymru, wrth i Reform UK gwestiynu beth sydd “o’i le” ar y cyfryngau. #gwleidyddiaeth

✍️ Ella Groves – Gohebydd Senedd ICNN

@golwg.360.cymruSep 14, 2026, 2:25 PM

Mwy nag erioed o’r blaen wedi pleidleisio yn etholiadau’r Senedd

51.7% o bobol gymwys oedd wedi pleidleisio, wrth i’r ganran godi uwchlaw 50% am y tro cyntaf erioed #gwleidyddiaeth

✍️ Guto Ynyr Elis

@golwg.360.cymruSep 14, 2026, 10:05 AM

Plaid Cymru, yr SNP, a Sinn Féin yn cyhoeddi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth

Mae arweinwyr y tair plaid yn cyfarfod yng Nghaerdydd heddiw (Medi 14) #gwleidyddiaeth

✍️ Efan Owen

@golwg.360.cymruSep 14, 2026, 8:15 AM

“Obsesiwn”: Arweinwyr Cymru, yr Alban ac Iwerddon yn cyfarfod i drafod annibyniaeth

Mae Llafur Cymru wedi ymateb yn chwyrn i’r cyfarfod yng Nghaerdydd heddiw (dydd Llun, Medi 14) #gwleidyddiaeth

✍️ Alun Rhys Chivers

@golwg.360.cymruSep 12, 2026, 10:15 AM

🗣 Neges Saunders Lewis yn dal yn berthnasol heddiw

Dathlu canmlwyddiant ysgol haf gyntaf Plaid Cymru ym Machynlleth #safbwynt #gwleidyddiaeth

✍️ Huw Prys Jones

@golwg.360.cymruSep 11, 2026, 3:40 PM

Bil cymorth i farw yn methu yn Nhŷ’r Cyffredin

Methu oedd hanes y bil aelodau preifat, o 286 pleidlais i 270 #gwleidyddiaeth

✍️ Rhys Owen

Load more