Grilled Cheese

ExploreLog inSign up
Terms of UsePrivacy PolicyCommunity StandardsHelpGet the app

Grilled Cheese is a product of Village Compute

Version devBuilt at: 2026-10-12 04:31:30 EDT

Explore

PostsPeople
LatestRanked
@golwg.360.cymruSep 24, 2026, 10:00 AM

Ken Skates eisiau efelychu llwyddiant Andy Burnham ar-lein

Ar drothwy cynhadledd gyntaf arweinydd newydd Llafur Cymru, mae Ken Skates yn cydnabod pwysigrwydd y cyfryngau cymdeithasol #gwleidyddiaeth

✍️ Rhys Owen

@golwg.360.cymruSep 24, 2026, 8:40 AM

Llywodraeth Cymru am ysgrifennu at San Steffan dros dreth wrtaith

Yn ystod sesiwn Bwyllgor, dywedodd Andrew RT Davies ei fod yn “siomedig” nad yw Llywodraeth Cymru wedi lobïo Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar y mater #gwleidyddiaeth

✍️ Rhys Owen

@golwg.360.cymruSep 23, 2026, 5:25 PM

Rhybudd y gall fframwaith ‘moesegol’ amddiffyn gostio swyddi a buddsoddiad i Gymru

Mae Adam Price yn mynnu nad oes gan y sector amddiffyn “ddim i’w ofni” gan gynlluniau Llywodraeth Cymru #gwleidyddiaeth

✍️ Ella Groves – Gohebydd Senedd ICNN

@golwg.360.cymruSep 23, 2026, 10:40 AM

Elfyn Llwyd yn gwrthod “baw” Reform UK dros ymadawiad Sarah Cooper-Lesadd

Fe awgrymodd Aelod Reform UK o’r Senedd, Jason O’Connell, fod yr Aelod Plaid Cymru newydd wedi twyllo a chamarwain ei hetholwyr #gwleidyddiaeth

✍️ Efan Owen

@golwg.360.cymruSep 23, 2026, 9:50 AM

Croeso a rhybudd i Raglen Lywodraethu newydd Cymru

Mae Mudiad Meithrin wedi croesawu’r addewid ar ofal plant, ond Climate Cymru’n rhybuddio nad yw targedau ar bapur yn ddigon heb gyllid pendant #gwleidyddiaeth

✍️ Llinos Dafydd

@golwg.360.cymruSep 22, 2026, 4:25 PM

Cyhuddo Plaid Cymru o fwydo’u ‘hobsesiwn ag annibyniaeth’ yn eu rhaglen lywodraethu

Mae’r gwrthbleidiau’n dadlau bod Llywodraeth Cymru bellach yn esgeuluso materion dydd-i-ddydd #gwleidyddiaeth

✍️ Efan Owen

@golwg.360.cymruSep 22, 2026, 3:40 PM

‘Fe wnaethoch chi siomi dioddefwyr’ – Helen Jenner yn herio Rhun ap Iorwerth

Fe heriodd arweinydd newydd Reform y Prif Weinidog dros ymchwiliad i gangiau grŵmio yn ei sesiwn gyntaf wrth y llyw. #gwleidyddiaeth

✍️ Ella Groves – Gohebydd Senedd ICNN

@golwg.360.cymruSep 22, 2026, 12:20 PM

Laura Anne Jones yn ddirprwy arweinydd Reform UK yng Nghymru

Y cyn-Geidwadwr yn camu i’r ail safle wrth i’r blaid ail-drefnu ei harweinyddiaeth yng Nghymru ar ôl wythnos gythryblus #gwleidyddiaeth

✍️ Llinos Dafydd

@golwg.360.cymruSep 22, 2026, 12:00 PM

Aber i alw am annibyniaeth

Hon fydd rali gyntaf YesCymru eleni #CylchgrawnGolwg #gwleidyddiaeth

✍️ Rhys Owen

@golwg.360.cymruSep 22, 2026, 8:40 AM

Rhaglen newydd, addewidion cyfarwydd yn Rhaglen Lywodraethu Plaid Cymru

Torri rhestrau aros, taclo tlodi plant a mynnu tegwch gan San Steffan sydd wrth galon cynllun Llywodraeth Rhun ap Iorwerth. #gwleidyddiaeth

✍️ Llinos Dafydd

@golwg.360.cymruSep 22, 2026, 6:10 AM

“Plaid i’r Saeson” ydy Reform UK: “Dim arwyddocâd” i benodiad arweinydd Cymraeg ei hiaith

Dadansoddiad y cyn-weinidog Alun Ffred Jones, sy’n rhybuddio y bydd y blaid yn awyddus i “chwarae’r cerdyn cenedlaetholgar” #gwleidyddiaeth

✍️ Efan Owen

@golwg.360.cymruSep 21, 2026, 3:45 PM

Cyn-Arlywydd alltud Catalwnia’n gobeithio dychwelyd adref

Mae Carlos Puigdemont wedi bod yn byw yng Ngwlad Belg ers cynllunio refferendwm “anghyfreithlon” Catalwnia yn 2017 #gwleidyddiaeth

✍️ Guto Ynyr Elis

@golwg.360.cymruSep 21, 2026, 12:50 PM

Rhybuddion argyfwng: Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi “dysgu gwersi” o’r negeseuon Cymraeg-yn-gyntaf

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi datgelu eu bod nhw am weithio gyda’u gwasanaethau digidol i leihau’r oedi rhwng negeseuon Cymraeg a Saesneg #gwleidyddiaeth

✍️ Efan Owen

@golwg.360.cymruSep 21, 2026, 12:35 PM

Arweinydd Cyngor Sir yn ymddiswyddo ar ôl bod yn feddw a chwympo mewn digwyddiad gwleidyddol

Mae honiadau i Steve Hunt ladd ar wariant ar y Gymraeg wrth wneud sylwadau sarhaus am Blaid Cymru #gwleidyddiaeth

✍️ Lewis Smith, Gohebydd Democratiaeth Leol

@golwg.360.cymruSep 21, 2026, 11:25 AM

Helen Jenner yw arweinydd newydd Reform UK yng Nghymru

Daeth y cyhoeddiad gan Nigel Farage ar risiau’r Senedd heddiw (dydd Llun, Medi 21) #gwleidyddiaeth

✍️ Alun Rhys Chivers

@golwg.360.cymruSep 21, 2026, 11:10 AM

Plaid Cymru’n nodi Diwrnod Heddwch Rhyngwladol

“Nid cyfrifoldeb rhai yw heddwch – ond dyletswydd a rennir i bob un ohonom” #gwleidyddiaeth

✍️ Alun Rhys Chivers

@golwg.360.cymruSep 21, 2026, 9:05 AM

Disgwyl cyhoeddi arweinydd Reform UK yng Nghymru

Helen Jenner yw’r ffefryn, gyda Nigel Farage yn teithio i Gymru ar gyfer y cyhoeddiad #gwleidyddiaeth

✍️ Alun Rhys Chivers

@golwg.360.cymruSep 18, 2026, 11:20 AM

Comisiwn y Senedd yn amddiffyn y drefn ar ôl gwrthdaro yn y Siambr am ddefnydd y Gymraeg

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu polisi iaith y Senedd ar ôl gwrthdaro yn y Siambr dros ddefnyddio’r Gymraeg i ymateb i gwestiwn Saesneg #gwleidyddiaeth

✍️ Rhys Owen

@golwg.360.cymruSep 18, 2026, 6:35 AM

£4.8 miliwn i awdurdodau lleol gael mynd i’r afael â chostau byw

Daw’r ffigur gan Lywodraeth Cymru wrth i chwyddiant godi unwaith yn rhagor #gwleidyddiaeth

✍️ Efan Owen

@golwg.360.cymruSep 18, 2026, 6:10 AM

Cynghorwyr Gwynedd yn galw am ystyried “ffactorau lleol” cyn cymeradwyo tai cymdeithasol newydd

Mae cynghorwyr yn rhai o bentrefi’r sir yn dadlau nad yw’r fframwaith asesu’n cydnabod amodau lleol yn ddigonol #gwleidyddiaeth

✍️ Efan Owen

Load more