Grilled Cheese

ExploreLog inSign up

Prifysgol Aberystwyth

@prifaber.bsky.social

15 Following136 Followers

Prifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2024, The Times a The Sunday Times Good University Guide. English: @aberuni.bsky.social

PostsRepliesMedia
@prifaber.bsky.socialOct 16, 2026, 5:13 PM

🎓 Heddiw gwnaethom nodi Diwrnod y Sylfaenwyr a lansio ein penwythnos Aduniad CFFI a Chyn-fyfyrwyr gyda’r orymdaith draddodiadol ar hyd y Prom i gicio’r bar. Wrth anrhydeddu sylfaenwyr Prifysgol Aberystwyth, buom yn dathlu etifeddiaeth sy’n parhau i lunio ein cenhadaeth i newid bywydau er gwell.

Photo, no descriptionPhoto, no description
@prifaber.bsky.socialOct 15, 2026, 9:58 AM

🌟 Llongyfarchiadau i Dr Hannah Rees ar dderbyn Cymrodoriaeth nodedig Dorothy Hodgkin 2026 gan y Gymdeithas Frenhinol, sy’n cydnabod gwyddonwyr rhagorol ar ddechrau eu gyrfa ac yn cefnogi'r genhedlaeth nesaf o ragoriaeth ymchwil.

🖱️ tinyurl.com/48y9zr2v

@ibers.bsky.social
#Ymchwil #morwellt

Photo, no description
@prifaber.bsky.socialOct 14, 2026, 8:50 AM

📖 Mae ein hymchwilwyr wedi cyhoeddi llyfr newydd sy'n taflu goleuni ar pam mae pobl yn meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn fel y maent.

🖱️ www.aber.ac.uk/cy/news/archive/2026/10/title-290135-cy.html

#Seicoleg #SeicolegEsblygol

Photo, no description
@prifaber.bsky.socialOct 13, 2026, 9:45 AM

💻 Sut mae twyllwyr yn defnyddio deallusrwydd artiffisial i dargedu dioddefwyr? Bu Dr Neil Mac Parthaláin o'n Hadran Cyfrifiadureg yn siarad â'r Byd ar Bedwar fel rhan o'i hymchwiliad i fyd sgamiau deallusrwydd artiffisial.

🖱️ www.s4c.cymru/clic/programme/949023264

@abercompsci.bsky.social

Photo, no description
@prifaber.bsky.socialOct 9, 2026, 10:42 AM

☀️ Mae ein gwyddonwyr yn croesawu'r newyddion bod Telesgop Solar Ewrop, prosiect rhyngwladol mawr i astudio'r Haul, wedi derbyn statws Tirnod gan y Fforwm Strategaeth Ewropeaidd ar Seilwaith Ymchwil.

#TelesgopSolarEwrop #FfisegSolar #TywyddGofod

www.aber.ac.uk/cy/news/arch...

Photo, no description
@prifaber.bsky.socialOct 9, 2026, 9:45 AM

Pleser croesawu ymwelwyr o Co-operation Ireland yr wythnos hon, sy'n ymweld i ddysgu o’n Canolfan Ddeialog ac i rannu eu profiad o ddeialog a datblygu cymunedol. Mae’r rhaglen yn cynnwys digwyddiadau sy’n edrych ar sut i weithio gyda gwahaniaeth mewn cymunedau a ffyrdd o gysylltu ag eraill.

Photo, no descriptionPhoto, no description
@prifaber.bsky.socialOct 8, 2026, 2:34 PM

⚡Mae ein hymchwilwyr yn arwain prosiect rhyngwladol i gefnogi ailadeiladu system ynni Wcráin drwy orsaf bŵer geothermol newydd yng ngorllewin y wlad.

🖱️ tinyurl.com/muma4fyc

#Geothermol #YnniGwyrdd #Ynni

Photo, no description
@prifaber.bsky.socialOct 8, 2026, 11:45 AM

Bydd ymchwilwyr o bob rhan o Ewrop yn dod ynghyd yma yn ddiweddarach y mis hwn i drafod sut y defnyddiwyd ieithoedd Celtaidd a Lladin ym Mhrydain Rufeinig.

🖱️ tinyurl.com/uyekh8e2

#IeithoeddCeltaidd #PrydainRufeinig

Photo, no description
@prifaber.bsky.socialOct 7, 2026, 11:22 AM

🩺 Mae Beca Lois Keen wedi ennill ysgoloriaeth Coleg Cymraeg 'Defi Fet' i astudio Milfeddygaeth trwy gyfrwng y Gymraeg - llongyfarchiadau Beca!

🖱️ www.aber.ac.uk/cy/news/archive/2026/10/title-290089-cy.html

Photo, no description
@prifaber.bsky.socialOct 2, 2026, 9:43 AM

🎥 Siaradodd Dr Tomos Fearn o'n Hadran Cyfrifiadureg â Newyddion ITV ddoe yn Anialwch y Tabernas yn Sbaen, lle mae prototeip o'r crwydryn Rosalind Franklin yn cael ei brofi cyn ei daith i'r blaned Mawrth.

#ExoMars

Photo, no description
@prifaber.bsky.socialOct 1, 2026, 2:40 PM

🌌 Mae technoleg a ddatblygwyd yma ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cael ei defnyddio yn yr amgylchedd awyr agored tebycaf i’r blaned Mawrth yn Ewrop i baratoi ar gyfer taith ExoMars Asiantaeth Ofod Ewrop.

🖱️ tinyurl.com/325w9cdc

#ExoMars #CrwydrynRosalindFranklin #Mawrth #BywydArMawrth

@prifaber.bsky.socialSep 29, 2026, 11:16 AM

Gall myfyrwyr Seicoleg yn y Brifysgol bellach ennill cymhwyster cwnsela a gydnabyddir yn genedlaethol ochr yn ochr â'u gradd, yn sgil achrediad gan brif gorff dyfarnu cwnsela y DU.

🖱️ tinyurl.com/3pmcpbpx

Photo, no description
@prifaber.bsky.socialSep 28, 2026, 11:19 AM

Rydym yn falch o gyhoeddi enillwyr Gwobrau Menter 2026. O'r diwydiannau creadigol ac amaethyddiaeth i fwyd a diod, mae mentrau buddugol eleni yn arddangos talent, arloesedd ac ysbryd entrepreneuraidd ein myfyrwyr a'n graddedigion.

@prifaber.bsky.socialSep 25, 2026, 1:09 PM

🎉 Llongyfarchiadau mawr i Dr Gwen Rees, sydd wedi cael ei hethol yn Llywydd Cymdeithas Milfeddygon Prydain (BVA). Testun balchder i Gymru, gwyddoniaeth filfeddygol ac i Brifysgol Aberystwyth.

🖱️ www.aber.ac.uk/cy/news/arch...

#GwyddoniaethFilfeddygol #BVA #IechydAnifeiliaid #CymruYnSTEM

Photo, no description
@prifaber.bsky.socialSep 25, 2026, 9:11 AM

📷 Bydd yr Ysgol Gelf yn cynnal arddangosfa fis nesaf fel rhan o Ffoto Cymru 2026, gŵyl ffotograffiaeth ryngwladol sy’n cael ei chynnal ledled Cymru.

🖱️ tinyurl.com/mshjsc6n

#FfotoCymru

Photo, no description
@prifaber.bsky.socialSep 22, 2026, 11:47 AM

Mewn erthygl newydd, mae Dr Jenny Mathers yn dadlau bod ymgyrch etholiadau seneddol Rwsia wedi datgelu amwysedd tuag at y rhyfel yn Wcráin, er nad oedd unrhyw amheuaeth ynghylch y canlyniad.

🖱️ tinyurl.com/2w4edwk2

@jgmaber.bsky.social
@interpolaber.bsky.social

Photo, no description
@prifaber.bsky.socialSep 21, 2026, 11:11 AM

Cafodd Dr Jenny Mathers o'n Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ei chyfweld gan raglen Newshour BBC World Service neithiwr ynghylch etholiadau seneddol Rwsia.

🎧 Gwrandewch o 34:30 - www.bbc.co.uk/sounds/brand...

@jgmaber.bsky.social
@interpolaber.bsky.social

Photo, no description
@prifaber.bsky.socialSep 18, 2026, 11:45 AM

Mae penwythnos y symud mewn wedi dechrau! Bydd miloedd o fyfyrwyr yn cyrraedd Aberystwyth dros y dyddiau nesaf. Siwrne saff i bawb sydd ar y ffordd. 👋🎓

🖱️ tinyurl.com/4fu8ppac

#Croeso #WelcomeWeekend

Photo, no description
@prifaber.bsky.socialSep 16, 2026, 5:20 PM

🐮 Daeth llunwyr polisi, milfeddygon, ymchwilwyr, ffermwyr a chynrychiolwyr y diwydiant o bob rhan o'r Deyrnas Unedig ac Iwerddon i'r Brifysgol heddiw i drafod strategaethau ar gyfer rheoli a dileu twbercwlosis buchol.

🖱️ www.aber.ac.uk/cy/news/archive/2026/09/title-289739-cy.html

#TBbuchol

Photo, no description
@prifaber.bsky.socialSep 16, 2026, 1:36 PM

Pleser oedd croesawu Llyr Gruffydd AS, Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd i'r Brifysgol heddiw ar gyfer Cynhadledd AberTB ac ymweliad â’n Canolfan Addysg Filfeddygol.

@llyrgruffydd.bsky.social sky.social
@senedd.cymru
@aberdlsagb.bsky.social
#AberTB

Photo, no descriptionPhoto, no descriptionPhoto, no descriptionPhoto, no description
Older posts
Terms of UsePrivacy PolicyCommunity StandardsHelpGet the app

Grilled Cheese is a product of Village Compute

Version devBuilt at: 2026-10-17 00:44:39 EDT